Mae Grŵp Cwmnïau PAI yn sefydliad rhagweithiol, cydlynol, wedi’i hintegreiddio’n llawn sy’n cynnwys pedair uned fusnes arwahanol - PAI, Link-AV, Vaughan Sound Installations Ltd (VSI) a Lighting Technology Projects Ltd (LTP).
Mae’r Grŵp yn arbenigo mewn dylunio, cyflenwi, a gosod offer sain-fideo, goleuo, sain ac arwyddion dynamig pwrpasol i’r diwydiannau hamdden, masnach, addysg, treftadaeth, a chwaraeon.
Gyda phrofiad yn ymestyn dros bedwar degawd, gall Grŵp Cwmnïau PAI gynnig cyfoeth o wybodaeth a sgiliau a enillwyd o nifer o osodiadau a digon o hyblygrwydd ar gyfer amgylchoedd busnes cyfoes. Craidd athroniaeth y cwmni yw darparu gwerth am arian heb golli ansawdd.
![]()
Mae PAI yn ddarparwyr gwasanaeth cyfan, sy’n ymroddedig i gynnig amrediad eang o wasanaethau dylunio, integreiddio a gosod, gan ddefnyddio cynhyrchion sain, goleuo ac AV blaenllaw.
Gyda llawer iawn o brofiad yn y maes, mae PAI yn cynnig ymgynghori, dylunio, rheoli prosiectau, cyflenwi, gosod manylebau a chymorth hollgynhwysol i gwsmeriaid o fewn y Diwydiannau masnach, hamdden, ac adloniant.
![]()
Sefydlwyd Vaughan Sound Installations dros 40 mlynedd yn ôl ac maent yn arbenigo mewn gosod, gwasanaethu a chynnal amrywiaeth o systemau sain, sain-weledol a chyfathrebu. Heddiw, mae Vaughan Sound yn adnabyddus am ei wasanaeth effeithlon, cost effeithiol ac o ansawdd uchel- boed yn brosiect gosod system gyflawn neu ddod o hyd i ran sbâr sengl yn unig.

Wedi’i sefydlu yn 1994, mae Lighting Technology Projects wedi datblygu enw da am ymgynghori, dylunio, manylu, cymorth technegol, gosod a gwasanaethu amrywiaeth o brosiectau goleuo a sain ym meysydd adloniant, diwydiant a masnach.
![]()
Mae Link AV yn dylunio a gosod pob mathau o systemau sain a fideo, gan gynnig amrediad eang o gynhyrchion goleuo, diogelu a chyfathrebu, wedi’u teilwra’n arbennig. Mae systemau rheoli yn galluogi technoleg i gael ei haddasu i ateb anghenion unigol, naill ai o bell neu o fewn y cartref, gyda’r bwriad o wella eich amser hamdden yno.
design: bluesky-media.net